Скачать ноты "Jewin Street ("Dyma Babell Y Cyfarfod")"
При нажатии на файл может появиться вопрос о разрешении всплывающих окон для сайта PrimaNota - нужно их разрешить, иначе скачивание не начнется.
текст песни (слова) "Jewin Street ("Dyma Babell Y Cyfarfod")"
Dyma babell y cyfarfod, Dyma gymod yn y gwaed, Dyma noddfa i lofruddion, Dyma i gleifion feddyg rhad; Dyma fan yn ymyl Duwdod I bechadur wneyd ei nyth, A chyfiawnder pur y nefoedd, Yn siriol wenu arno byth. Pechadur aflan yw fy enw, O ba rai y penna'n fyw; Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell Im gael yn dawel gwrdd â Duw: Yno y mae yn llond ei gyfraith I'r troseddwr yn rhoi gwledd; Duw a dyn yn gweiddi 'Digon!' Yn yr Iesu, 'r aberth hedd. Myfi a anturiaf yno yn eon, Teyrnwialen aur sydd yn ei law, A hon a'i senter at bechadur, Llwyr dderbyniad pawb a ddaw; Af ymlaen dan weiddi "Maddau!" Af a syrthiaf wrth ei draed, Am faddeuant, am fy ngolchi, Am fy nghannu yn ei waed. O! am ddyfod o'r anialwch I fyny fel colofnau mwg Yn uniongyrchol at ei orsedd, Mae yno'n eistedd heb ei wg: Amen diddechrau a diddiwedd, Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un; Amlygu y mae ogoniant Trindod Yn achubiaeth damniol ddyn.