Скачать ноты "Am dy roddion ddaw o'r newydd"
При нажатии на файл может появиться вопрос о разрешении всплывающих окон для сайта PrimaNota - нужно их разрешить, иначе скачивание не начнется.
-
Am_dy_roddion_ddaw_or_newydd.pdf [26,90 Кб] -
Am_dy_roddion_ddaw_or_newydd.mid [3,92 Кб]
текст песни (слова) "Am dy roddion ddaw o'r newydd"
Am dy roddion ddaw o'r newydd, a chysondeb llanw'r môr, boed ein cân o fawl yn deilwng o'th haelioni, Arglwydd Iôr. Gwared ni rhag camddefnyddio a gwastraffu pan fo cri y newynog oll yn edliw ddysglau llawn ein byrddau ni. Ym moethus rwydd ein cartrefi, na foed inni, nefol Dad droi'n glustfyddar i'r trueni sydd ar gerdded trwy bob gwlad. Bydd o blaid y rhai sy'n gweithio i ddiddymu'r gwn a'r cledd. Ti yn unig, dirion Arglwydd ddaw â'r byd i lwybrau hedd. Pan fo'n hirlwm ar dy eglwys a'r gwrthgilio yn dwysau, rho i'r dau neu dri sy'n ffyddlon nerth i gadw'r drws heb gau. Boed i neges dy efengyl dreiddio i bellafoedd byd fel y delo'r holl genhedloedd dan dy faner di o hyd.